Ein nod yw darparu gwasanaeth ysgrifenyddiaeth o'r radd flaenaf sy'n canolbwyntio ar anghenion defnyddwyr y tribiwnlys.
Bydd ein targedau yn ein helpu i gyflawni ein nod a monitro ein perfformiad.
Rydym yn mesur ein perfformiad yn erbyn targedau yn barhaus a bydd ein Adroddiad Blynyddol i'r tribiwnlys yn cynnwys adroddiad ar berfformiad.
Hefyd, byddwn yn gwahodd defnyddwyr y tribiwnlys i gwblhau arolwg boddhad ar ddiwedd y broses er mwyn rhoi adborth ar ein gwasanaeth.
Ein ffigurau perfformiad ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2013 a mis Mawrth 2014 yw:
- Cofrestru
- 95% o'r holl apeliadau neu gyfeiriadau lle nad oes angen rhagor o wybodaeth na chamau gweithredu, i gael eu prosesu o fewn deng niwrnod gwaith i'w cael.
- Targed wedi'i gyflawni mewn 100% o'r achosion.
- Mewn 95% o'r holl achosion lle na allwn brosesu'r apêl neu'r cyfeiriadau, byddwn yn ysgrifennu atoch chi neu'r sefydliad perthnasol o fewn deng niwrnod gwaith i'w cael er mwyn eich hysbysu chi neu'r sefydliad perthnasol o'r camau y byddwn yn eu cymryd.
- Targed wedi'i gyflawni mewn 100% o'r achosion.
- Gwrandawiad
- 100% o Hysbysiadau Gwrandawiad i'w dosbarthu i'r ymatebydd/apelydd 21 diwrnod cyn y gwrandawiad.
- Targed wedi'i gyflawni mewn 100% o'r achosion.
- 100% o Hysbysiadau Gwrandawiad i'w dosbarthu i dystion 14 diwrnod cyn y gwrandawiad.
- Targed wedi'i gyflawni mewn 100% o'r achosion.
- Cyflawni
- Byddwn yn cyhoeddi 95% Adroddiadau Penderfyniad o fewn 30 diwrnod gwaith i'r gwrandawiad.
- Targed wedi'i gyflawni mewn 83% o'r achosion.
- Byddwn yn ceisio cyflawni 75% o apeliadau neu gyfeiriadau o fewn 6 mis i'w cofrestru.
- Targed wedi'i gyflawni mewn 17% o'r achosion.