Yr Ysgrifenyddiaeth
Mae'r ysgrifenyddiaeth yn gyfrifol am weinyddu'r tribiwnlys. Mae'r ysgrifenyddiaeth:
- yn gyfrifol am swyddogaethau cofrestru Panel Dyfarnu Cymru
- yn delio â'r holl ymholiadau ffôn ac ysgrifenedig
- yn prosesu apeliadau a chyfeiriadau
- yn hysbysu partïon o gamau pwysig yn y broses, fel ble a phryd y bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal.
Cysylltwch â ni os na allwch ddod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano ar y wefan hon neu os oes unrhyw beth yn aneglur.
Aelodau'r Panel
Mae llywydd y tribiwnlys yn aelod cyfreithiol ac ef yw arweinydd barnwrol Panel Dyfarnu Cymru. Y llywydd sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am y tribiwnlys, ei aelodau a'i benderfyniadau. Mae gan y tribiwnlys hefyd aelodau cyfreithiol a lleyg sydd â gwybodaeth ac arbenigedd mewn meysydd sy'n berthnasol i'r tribiwnlys. Mae'r llywydd a'r aelodau'n cael eu penodi gan Weinidogion Cymru.
Mae gwrandawiadau tribiwnlysoedd yn cynnwys tri aelod o Banel Dyfarnu Cymru. Mae cadeirydd y gwrandawiad fel arfer yn aelod cyfreithiol.