Penderfyniadau

Mae penderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru ar gael i'w gweld ar-lein yn ôl y math o achos.

Fel arfer, bydd hysbysiad o'r penderfyniad yn cael ei gyhoeddi yn y wasg. Gallwn wneud copïau o benderfyniadau ac efallai y bydd y swyddfa yn codi tâl am hynny.

Cyfrinachedd

  • Gall y tribiwnlys wneud trefniadau i gyhoeddi ei benderfyniadau fel sy'n briodol yn ei dyb ef, ond wrth wneud hynny bydd yn ystyried yr angen i gadw cyfrinachedd unrhyw dystiolaeth a gafodd ei chlywed yn breifat ac am y rheswm hwnnw, gall y tribiwnlys olygu'r rhan honno o benderfyniad.