Gallwch lawrlwytho llawlyfrau canllaw a ffurflenni o'r wefan hon neu, os hoffech i ni anfon copi atoch, cysylltwch â ni.
Mae angen dychwelyd ffurflenni wedi'u llenwi i Banel Dyfarnu Cymru.
Cyfeiriadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn cyfeirio honiadau bod aelodau etholedig a chyfetholedig wedi torri cod ymddygiad statudol awdurdod at Banel Dyfarnu Cymru fel y gall benderfynu arnynt. Bydd yr Ombwdsmon yn cynnal ei ymchwiliad ei hun i honiadau bod aelod wedi torri'r cod cyn penderfynu p'un a fydd yn eu cyfeirio ai peidio.
Apeliadau yn erbyn penderfyniadau pwyllgor safonau
Gall aelodau etholedig a chyfetholedig wneud apêl i Banel Dyfarnu Cymru yn erbyn penderfyniad gan bwyllgor safonau awdurdod bod yr aelod dan sylw wedi torri cod ymddygiad statudol yr awdurdod.
Gwybodaeth i Dystion
Gall yr aelod sy'n destun yr honiad ei fod wedi torri'r cod ofyn i dystion fynd i wrandawiad y tribiwnlys er mwyn rhoi tystiolaeth. Hefyd, gall Panel Dyfarnu Cymru alw ar dystion ac, mewn achosion penodol, gall wysio tystion i fynd i wrandawiad tribiwnlys.
Efallai y bydd y dudalen cwestiynau cyffredin a'r rhestr termau ar ein gwefan yn ddefnyddiol i chi hefyd.