Gwybodaeth i dystion

Gall yr aelod sy'n destun yr honiad ei fod wedi torri'r cod ofyn i dystion fynd i wrandawiad y tribiwnlys er mwyn rhoi tystiolaeth. Hefyd, gall Panel Dyfarnu Cymru alw ar dystion ac, mewn achosion penodol, gall wysio tystion i fynd i wrandawiad tribiwnlys.

Gallwch lawrlwytho ein llawlyfr canllaw am wybodaeth i dystion o'r wefan hon neu, os hoffech i ni anfon copi atoch, cysylltwch â ni.

  • Gwybodaeth i Dystion, mae ein llawlyfr canllaw yn cynnwys gwybodaeth bwysig am beth fydd yn digwydd pan fydd tyst yn cael ei alw neu'i wysio i roi tystiolaeth mewn gwrandawiad tribiwnlys, rôl y tyst a'r cynllun treuliau i dystion am fynd i wrandawiad tribiwnlys.

Gallwch lawrlwytho ein ffurflenni i dystion sydd wedi cael eu galw neu'u gwysio i fynd i wrandawiad tribiwnlys drwy ddefnyddio'r dolenni isod neu, os hoffech i ni anfon copi atoch, cysylltwch â ni.

  • Ffurflen Presenoldeb Tyst, os bydd tyst wedi cael ei alw neu'i wysio gan y tribiwnlys, byddwn yn gofyn iddo lenwi ffurflen bresenoldeb. Os bydd tyst wedi cael ei alw gan yr aelod sy'n destun yr honiad o dorri'r cod, mae'r aelod hwnnw'n gyfrifol am sicrhau bod y tyst yn llenwi ffurflen bresenoldeb ac yn ei chyflwyno i'r tribiwnlys.
  • Ffurflen Hawlio Treuliau Tyst, efallai y bydd modd i dystion hawlio treuliau os ydynt wedi cael eu galw neu'u gwysio i fynd i wrandawiad tribiwnlys. Mae ein llawlyfr canllaw am wybodaeth i dystion yn rhoi gwybodaeth bwysig am yr amgylchiadau pan allant hawlio treuliau a'r swm.