Gall aelodau etholedig a chyfetholedig wneud apêl i Banel Dyfarnu Cymru yn erbyn penderfyniad gan bwyllgor safonau awdurdod bod yr aelod dan sylw wedi torri cod ymddygiad statudol yr awdurdod.
Gallwch lawrlwytho ein ffurflen i apelio yn erbyn penderfyniad gan bwyllgor safonau drwy ddefnyddio'r dolenni isod neu, os hoffech i ni anfon copi atoch, cysylltwch â ni. Rhaid cyflwyno apeliadau ysgrifenedig i Banel Dyfarnu Cymru.
- Hysbysiad Apêl, os bydd pwyllgor safonau yn penderfynu bod person wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol, gall y person hwnnw wneud apêl i Banel Dyfarnu Cymru yn erbyn y penderfyniad hwnnw.
Gallwch lawrlwytho ein llyfrynnau canllaw ar: sut i wneud apêl, trefniadau'r tribiwnlys a'r pwerau i orchymyn cosbau, o'r wefan hon neu, os hoffech i ni anfon copi atoch, cysylltwch â ni.
- Sut i Wneud Apêl, mae ein llyfryn canllaw yn cynnwys gwybodaeth am sut i wneud apêl, terfynau amser pwysig ar gyfer gwneud apêl a beth fydd yn digwydd unwaith y byddwch wedi gwneud apêl.
- Canllaw ar Drefniadau'r Tribiwnlys, mae ein llyfryn canllaw yn cynnwys gwybodaeth bwysig am drefniadau'r tribiwnlys a gwrandawiad y tribiwnlys.
- Canllaw ar Gosbau, mae ein llyfryn canllaw yn cynnwys gwybodaeth am bwerau'r tribiwnlys i orchymyn cosbau ac ystyriaethau pwysig pan fydd yn penderfynu bod y cod ymddygiad wedi cael ei dorri.