Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn cyfeirio honiadau bod aelodau etholedig a chyfetholedig wedi torri cod ymddygiad statudol awdurdod at Banel Dyfarnu Cymru fel y gall benderfynu arnynt.
Gallwch lawrlwytho ein ffurflen i ateb hysbysiad cyfeirio drwy ddefnyddio'r dolenni isod. Bydd y ffurflen yn cael ei hanfon drwy'r post at yr aelod perthnasol hefyd. Mae angen dychwelyd ffurflenni wedi'u llenwi i Banel Dyfarnu Cymru.
- Ateb Hysbysiad Cyfeirio, bydd Panel Dyfarnu Cymru yn rhoi hysbysiad cyfeirio ysgrifenedig a bydd yn anfon copi o adroddiad yr Ombwdsman, ynghyd â'r hysbysiad, at yr aelod sy'n destyn yr honiadau o dorri'r cod. Mae dyletswydd statudol ar yr aelod i roi ateb ysgrifenedig a'r wybodaeth a nodir yn ein ffurflen i Banel Dyfarnu Cymru.
Gallwch lawrlwytho ein llyfrynnau canllaw ar sut i ateb hysbysiad cyfeirio, trefniadau'r tribiwnlysoedd a'r pwerau i orchymyn cosbau, drwy ddefnyddio'r dolenni isod neu, os hoffech i ni anfon copi atoch, cysylltwch â ni.
- Sut i Ateb Hysbysiad Cyfeirio, mae ein llyfryn canllaw yn cynnwys gwybodaeth am beth fydd yn digwydd pan fydd achos yn cael ei gyfeirio at Banel Dyfarnu Cymru a sut i ateb hysbysiad cyfeirio.
- Canllaw ar Drefniadau'r Tribiwnlys, mae ein llyfryn canllaw yn cynnwys gwybodaeth bwysig am derfynau amser, trefniadau'r tribiwnlys a gwrandawiad y tribiwnlys.
- Canllaw ar Gosbau, mae ein llyfryn canllaw yn cynnwys gwybodaeth am bwerau'r tribiwnlys i orchymyn cosbau ac ystyriaethau pwysig pan fydd yn penderfynu bod y cod ymddygiad wedi cael ei dorr. Nodwch y bydd ein canllaw newydd ar gosbau, y ceir manylion amdano isod, yn dod i rym ar gyfer gwrandawiadau a gynhelir ar ôl 1 Medi 2018.