Rheoliadau

Mae Panel Dyfarnu Cymru yn dribiwnlys annibynnol a gafodd ei sefydlu o dan Ran III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

Mae swyddogaethau ac awdurdodaethau Panel Dyfarnu Cymru wedi'u nodi isod

Cyfeiriadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Gall Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gynnal ymchwiliad o dan adran 69 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 i ganfod p'un a yw aelod neu aelod cyfetholedig o "awdurdod perthnasol" wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod. Os bydd yn canfod o dan adran 69(4)(d) y dylai'r materion dan sylw gael eu cyfeirio at lywydd Panel Dyfarnu Cymru (y Panel) fel y gall tribiwnlys o dan adran 76(1) ddyfarnu arnynt, gall yr Ombwdsmon gyfeirio'r mater hwnnw at lywydd y Panel o dan adran 71(3).
Os bydd yr Ombwdsmon yn llunio adroddiad interim o dan adran 72 sy'n cynnwys argymhelliad yn unol ag adran 72(3), rhaid i'r Ombwdsmon gyfeirio'r mater at lywydd y Panel o dan adran 72(4) fel y gall tribiwnlys o dan adran 76(2) ddyfarnu arno.

Bydd dyfarniadau ar faterion y mae'r Ombwdsmon yn eu cyfeirio at lywydd y Panel o dan adran 71(3) yn cael eu gwneud gan dribiwnlysoedd achos a bydd dyfarniadau ar faterion sy'n cael eu cyfeirio o dan adran 72(4) yn cael eu gwneud gan dribiwnlysoedd achos interim. Mae pwerau'r tribiwnlysoedd wedi'u nodi yn adrannau 76 i 80 (dyfarniadau, penderfyniadau ac argymhellion).

Apeliadau yn erbyn penderfyniadau pwyllgor safonau

Os bydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn canfod o dan adran 69(4)(c) y dylai'r mater gael ei gyfeirio at swyddog monitro'r awdurdod dan sylw, rhaid iddo gyfeirio'r mater at swyddog monitro'r awdurdod dan sylw o dan adran 71(2). Os bydd yr Ombwdsmon yn rhoi terfyn ar ymchwiliad cyn iddo gael ei gwblhau, gall gyfeirio'r mater o dan adran 70(4) at swyddog monitro'r awdurdod dan sylw.

Yn unol â'r Rheoliadau o dan adran 73 (Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001 (OS 2001/2281)), pan fydd mater yn cael ei gyfeirio at y swyddog monitro o dan adran 70(4) neu 71(2), gall swyddog monitro'r awdurdod wneud argymhellion i'r Pwyllgor Safonau a fydd yn gwneud dyfarniad. O dan reoliadau 10 ac 11 o'r Rheoliadau hyn, gellir gwneud apêl yn erbyn dyfarniad Pwyllgor Safonau i un o dribiwnlysoedd apeliadau'r Panel.

Y rheoliadau sy'n ymwneud ag awdurdodaeth Panel Dyfarnu Cymru yw:

Deddf Llywodraeth Leol 2000 (Adrannau 71-79)

Ar gael ar-lein ac ar ffurf argraffedig ar wefan swyddogol deddfwriaeth y DU (dolen allanol).

Rheoliadau Dyfarniadau gan Dribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim (Cymru) 2001 Rhif 2288 (C. 176) (diwygiwyd gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Tribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim a Phwyllgorau Safonau) (Diwygio) (Cymru) 2009, OS 2009/2578)

Ar gael ar-lein ac ar ffurf argraffedig ar wefan swyddogol deddfwriaeth y DU (dolen allanol).

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol)(Cymru)(Diwygio) 2016 Rhif 84 (Cy. 38)

Ar gael ar-lein ac ar ffurf argraffedig ar wefan swyddogol deddfwriaeth y DU (dolen allanol).

Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001 Rhif 2281 (C. 171) 

Ar gael ar-lein ac ar ffurf argraffedig ar wefan swyddogol deddfwriaeth y DU (dolen allanol).

Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio)(Cymru)(Diwygio) 2016 Rhif 85 (Cy. 39)

Ar gael ar-lein ac ar ffurf argraffedig ar wefan swyddogol deddfwriaeth y DU (dolen allanol).