Mae Panel Dyfarnu Cymru yn gorff annibynnol a gafodd ei sefydlu o dan Ran III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
Ffeithiau allweddol:
- Mae'r tribiwnlys yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ond mae'r tribiwnlys, yr aelodau a phenderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru yn annibynnol ar y Llywodraeth;
- Mae dwy ran i'r tribiwnlys: yr ysgrifenyddiaeth ac aelodau'r tribiwnlys. Mae'r ddwy ran yn cydweithio yn ystod y broses gan gyflawni tasgau gwahanol. Rôl aelodau'r tribiwnlys yw gwrando tribiwnlysoedd achos, tribiwnlysoedd achos interim a thribiwnlysoedd apêl a phenderfynu arnynt. Rôl yr ysgrifenyddiaeth yw cyflawni dyletswyddau gweinyddol sydd ynghlwm wrth brosesu cyfeiriadau ac apeliadau.