Aelodau o’r Tribiwnlys fydd yn penderfynu cynnal gwrandawiad fideo ai peidio a gallant wneud hynny am nifer o resymau. Bydd y cofrestrydd yn dweud wrthych a yw hyn yn digwydd a pha blatfform fydd yn cael ei ddefnyddio. Os bydd y Tribiwnlys yn penderfynu cynnal gwrandawiad ar sail y papurau sydd ger ei fron, nid oes angen i unrhyw barti fod yn bresennol yn y gwrandawiad.
Fel arfer, gall y cyhoedd fynychu gwrandawiadau tribiwnlys, ac eithrio pan fyddant ar bapur neu’n breifat. Rhaid i unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n dymuno bod yn bresennol mewn gwrandawiad a gynhelir ar fideo gysylltu â Phanel Dyfarnu Cymru drwy anfon e-bost at adjudication.panel@gov.wales 5 diwrnod gwaith cyn dyddiad y gwrandawiad i gael dolen i’r gwrandawiad. Bydd eu cais am ddolen yn cael ei ystyried a bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhoi iddynt.
Os yw’r gwrandawiad yn cael ei gynnal yn rhithiol ar fideo, bydd y Tribiwnlys yn dweud wrthych pa blatfform fideo sy’n cael ei ddefnyddio. Pan fyddwch chi’n gwybod beth yw’r platfform, dilynwch y ddolen a’r canllawiau priodol ar gyfer ymuno â’r gwrandawiad fideo a phrofi eich offer. Bydd sesiwn brawf yn cael ei darparu cyn y gwrandawiad er mwyn i chi ymgyfarwyddo â’r ystafell gwrandawiadau rithiol.
Cyn eich gwrandawiad
Dylech ddweud wrth y Tribiwnlys pa rif ffôn neu gyfeiriad e-bost y dylem ei ddefnyddio i gysylltu â chi ar gyfer y gwrandawiad.
Dylech hefyd ofyn i’r Tribiwnlys am unrhyw drefniadau neu fesurau arbennig a fyddai’n eich helpu i deimlo’n gyfforddus i gymryd rhan yn y gwrandawiad.
Cyn y gwrandawiad, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- gwneud yn siŵr bod gennych chi’r porwr rhyngrwyd diweddaraf - Google Chrome yn ddelfrydol
- darllen y canllawiau a anfonwyd atoch ynghylch sut mae ymuno â’r gwrandawiad
- profi eich offer gan ddefnyddio cyfarwyddiadau profi'r platfform a mynd i'r sesiwn brawf, er mwyn i chi wybod ei fod yn gweithio gan y gallai achosi oedi neu darfu ar y gwrandawiad fel arall
- rhoi gwybod i ni ar unwaith os oes gennych chi unrhyw broblemau wrth ymuno â’r platfform neu wrth brofi eich offer drwy gysylltu â chofrestrydd y panel.
Bydd y Tribiwnlys yn ystyried eich anghenion ac yn gwneud popeth posibl i sicrhau y byddwch yn gallu cymryd rhan yn y gwrandawiad.
Tystion
Os ydych chi’n dyst, gwnewch yn siŵr eich bod wedi llenwi’r ffurflenni angenrheidiol ac wedi eu dychwelyd i’r Panel drwy’r post neu e-bost - drwy e-bost yn ddelfrydol. Rhowch wybod i’r cofrestrydd cyn gynted ag y bo modd os oes angen unrhyw gymorth arnoch chi, gan gynnwys unrhyw wasanaethau cyfieithu.
Cael rhywun i’ch cefnogi yn ystod eich gwrandawiad
Gallwch ofyn i rywun eich cefnogi chi yn ystod eich gwrandawiad ffôn neu fideo. Gallent fod yn rhan o fudiad elusennol, gwasanaeth llywodraeth leol, yn ffrind neu’n aelod o’r teulu. Ni allant fod yn rhywun sy’n ymwneud â’r achos.
Bydd angen i chi ofyn am ganiatâd y Tribiwnlys iddynt ymuno. Ni allant roi cyngor cyfreithiol na siarad ar eich rhan ond gallant ddarparu cefnogaeth emosiynol a gwybodaeth ymarferol am y broses.
Dewis ble i fod ar gyfer y gwrandawiad
Cyn y gwrandawiad, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- dewis lle sy’n ddistaw ac yn breifat gan osgoi unrhyw sŵn cefndir
- rhoi gwybod i bobl sy’n rhannu’r lle hwnnw na ddylid tarfu arnoch chi yn ystod y gwrandawiad
Addasiadau rhesymol
Gwyddom fod angen cymorth ychwanegol ar bobl ag anableddau weithiau. Gall hyn olygu bod angen i ni ddarparu rhywbeth gwahanol er mwyn i chi allu cael gafael ar ein gwasanaethau a’u defnyddio yn yr un ffordd â rhywun heb anabledd. Rydym yn aml yn galw hyn yn addasiad rhesymol.
Os oes angen addasiad rhesymol arnoch chi, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost at y cofrestrydd neu ei ffonio.
Gwneud yn siŵr bod eich holl ddogfennau gennych chi
Cysylltwch â’r Tribiwnlys, neu siaradwch â’ch cynrychiolydd cyfreithiol, i wneud yn siŵr eich bod yn gallu cael gafael ar yr holl ddogfennau y bydd eu hangen arnoch chi ar y diwrnod.
Os oes angen rhannu dogfennau ar y diwrnod, bydd y cofrestrydd yn dweud wrthych chi sut gallwch chi eu rhannu neu eu derbyn.
Diwrnod eich gwrandawiad
Paratoi ar gyfer eich gwrandawiad ffôn neu fideo
Byddwch yn barod o leiaf 20 munud cyn y gwrandawiad a gwnewch yn siŵr bod gennych chi’r canlynol:
- y ddyfais rydych chi’n ei defnyddio i ymuno â’r gwrandawiad - wedi’i gwefru’n llawn neu wrthi’n gwefru
- unrhyw ddogfennau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer y gwrandawiad, gan gynnwys mynediad at fwndel y gwrandawiad
- eich llyfr sanctaidd neu’ch ysgrythur ddewisol i dyngu llw arnynt (os yw’n berthnasol)
- gwydraid o ddŵr (os oes angen)
- dim byd arall a allai dynnu eich sylw, fel ffôn symudol (oni bai eich bod yn ei ddefnyddio ar gyfer y gwrandawiad)
Dylech hefyd wneud y canlynol:
- gwisgo fel pe baech yn dod i mewn i lys neu i adeilad tribiwnlys
- cael rhywbeth plaen y tu ôl i chi, fel wal wag
- eistedd gyda golau o’ch blaen, fel nad yw eich wyneb mewn cysgod
- gwneud yn siŵr ein bod yn gallu gweld eich wyneb a’ch ysgwyddau
Yn ystod y gwrandawiad
Mae gwrandawiadau fideo yn dilyn yr un broses ag y byddent mewn llys neu adeilad tribiwnlys.
Ar ddechrau’r gwrandawiad, bydd Cadeirydd y Tribiwnlys yn egluro beth fydd yn digwydd. Efallai y bydd yn gofyn cwestiynau i chi i wneud yn siŵr eich bod wedi deall. Os nad ydych chi’n deall rhywbeth, mae’n bwysig eich bod yn dweud wrtho.
Os ydych chi’n rhoi tystiolaeth yn ystod y gwrandawiad, gofynnir i chi dyngu llw neu wneud addewid sy’n gyfreithiol rwymol (a elwir yn gadarnhad) y bydd eich tystiolaeth yn wir. Nid oes angen defnyddio llyfr sanctaidd nac ysgrythur oni bai eich bod yn dymuno gwneud hynny.
Eich rôl yn y gwrandawiad
Er mwyn osgoi tarfu ar y gwrandawiad, dylech dewi eich meicroffon os oes modd, fel nad yw’r Tribiwnlys yn clywed sgyrsiau na sŵn cefndir. Mae’n bosibl y byddwch chi’n cael eich tewi’n awtomatig, yn dibynnu ar y platfform sy’n cael ei ddefnyddio.
Os ydych chi’n ymuno drwy fideo, cofiwch y byddwch chi’n cael eich gweld ar y sgrin a dylech ystyried iaith ac ymddygiad eich corff, p’un a ydych chi’n siarad ai peidio.
Os oes angen i chi glywed rhywbeth eto nad oeddech chi wedi’i ddilyn neu ei ddeall, cewch ofyn i Gadeirydd y Tribiwnlys.
Pan fyddwch chi’n siarad, cofiwch wneud yn siŵr nad yw eich meicroffon wedi’i dewi a siaradwch yn glir.
Os oes angen i chi gymryd egwyl yn ystod eich gwrandawiad, gallwch ofyn i Gadeirydd y Tribiwnlys.
Rheolau’r gwrandawiad
Ar ddechrau’r gwrandawiad, bydd Cadeirydd y Tribiwnlys yn egluro’r broses a’r rheolau yn ystod y gwrandawiad. Mae’n rhaid i chi drin y gwrandawiadau ffôn a/neu fideo o ddifrif - fel pe baent mewn llys neu adeilad tribiwnlys go iawn.
Yn ystod y gwrandawiad, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- dim ond yfed dŵr
- peidio â bwyta
- peidio ag ysmygu na defnyddio e-sigaréts
- dilyn cyfarwyddiadau’r llys neu’r tribiwnlys
- bod ar eich pen eich hun oni bai eich bod wedi cael caniatâd fel arall
Mae recordio fideo neu sain y gwrandawiad eich hun, neu dynnu lluniau neu sgrin luniau yn drosedd.
Ar ddiwedd eich gwrandawiad
Gall y Tribiwnlys adael yr alwad ffôn neu fideo am gyfnodau o amser i drafod cyn dod i’w benderfyniad. Gall hyn olygu y bydd angen i chi adael y gwrandawiad am ychydig cyn ailgynnull. Bydd Cadeirydd y Tribiwnlys yn rhoi gwybod i chi os bydd angen i chi wneud hyn.
Bydd penderfyniad llafar yn cael ei roi ar y diwrnod a bydd hysbysiad o benderfyniad yn cael ei anfon atoch chi wedyn drwy’r post neu drwy e-bost. Yna, bydd adroddiad llawn ar y penderfyniad yn dilyn maes o law.
Bydd Cadeirydd y Tribiwnlys yn dweud wrthych chi pan fydd y gwrandawiad ar ben a phryd y cewch chi adael.