Hysbysiad preifatrwydd

Yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, mae’r hysbysiad hwn yn nodi sut byddwn yn prosesu eich data personol.

Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth am unigolyn byw y gellir ei defnyddio i ddweud pwy ydyw, er enghraifft, ei enw, ei gyfeiriad, ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad e-bost neu ei gymwysterau. Panel Dyfarnu Cymru (y Panel) a Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli eich data personol.

Pam ydych chi’n prosesu fy ngwybodaeth bersonol?

Wrth gyfeirio at brosesu, rydym yn golygu unrhyw beth a wneir â’ch data personol, fel eu casglu, eu storio, eu haddasu neu eu dinistrio. Mae gwneud nodiadau yn ystod gwrandawiad Panel neu gyhoeddi penderfyniad y Panel yn enghreifftiau o brosesu. Rydym yn prosesu eich data personol oherwydd bod hynny’n angenrheidiol ar gyfer tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol sydd gan y rheolydd. Felly mae hyn yn unol ag Erthygl 6(e) y GDPR.

Mae hyn yn hanfodol oherwydd mae’n rhaid i’r Panel brosesu eich data er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau statudol yn unol â’r ddeddfwriaeth ganlynol:

  • Deddf Llywodraeth Leol 2000
  • Rheoliadau Dyfarniadau gan Dribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2288) (Cy. 176)
  • Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008 (O.S.2016/84) (Cy. 82)
  • Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2281) (Cy. 171) 

Pa gategorïau o ddata personol ydych chi’n eu prosesu?

O’r rhestr o gategorïau arbennig o ddata personol sy’n cael eu rhestru yn Erthygl 9(1) y GDPR, bydd y Panel yn prosesu data ar safbwyntiau gwleidyddol ym mhob achos. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gallai unrhyw rai o’r categorïau arbennig eraill o ddata personol gael eu cynnwys mewn unrhyw achos.

Mae categorïau arbennig eraill o ddata personol yn cynnwys gwybodaeth am hil neu darddiad ethnig, credoau crefyddol neu athronyddol, aelodaeth o undeb llafur, a phrosesu data ynghylch genynnau neu ddata biometrig at ddibenion adnabod bod dynol, data am iechyd neu ddata ynghylch bywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol bod dynol.

Dim ond pan fydd hynny’n angenrheidiol er mwyn sefydlu, er mwyn arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol neu pryd bynnag y bydd y llysoedd yn arfer eu gwaith barnwrol yn unol ag Erthygl 9(2) y GDPR y bydd y Panel yn prosesu data categori arbennig.

O ble ydych chi’n cael data personol amdanaf?

Gall y Panel gael eich data personol o’r ffynonellau canlynol:

  • Gallwch ddarparu eich data eich hun i’r Panel
  • Cynrychiolwyr cyfreithiol
  • Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
  • Gwasanaethau Eirioli
  • Awdurdodau Lleol

Ydych chi’n rhannu fy nata personol ag unrhyw un arall?

O ran y ddeddfwriaeth sy’n rheoli’r broses o wneud cais, byddwn yn anfon copïau o unrhyw gais, atodiad, gohebiaeth a sylwadau i’r partïon eraill a’u cynrychiolwyr.

Mewn unrhyw fath o achos, pan fydd y Panel yn penderfynu bod angen tystiolaeth arbenigol i helpu i wneud penderfyniad ynghylch yr achos, bydd y data perthnasol sy’n ymwneud â’r achos yn cael eu rhannu â’r trydydd parti. Bydd pob parti’n cael gwybod am hyn ar y pryd, ac yn cael copi o unrhyw adroddiad y bydd trydydd parti yn ei dderbyn.

Cyhoeddir penderfyniadau’r Panel ar ei wefan. Gall penderfyniadau o dan y gwahanol awdurdodaethau gynnwys enwau’r partïon. Yn y rhan fwyaf o achosion, dim ond yr enw y mae modd chwilio amdano ar ein gwefan, yn dibynnu ar yr awdurdodaeth. Cyhoeddir hysbysiadau o benderfyniadau mewn papurau newydd hefyd, fel gofyniad statudol.

Yn gyffredinol, rhaid cynnal achosion panel (gwrandawiadau) yn gyhoeddus. Mae hon yn agwedd ar yr hawl cyfansoddiadol i gyfiawnder agored. Byddai’n rhaid cyflwyno rhesymau eithriadol dros gynnal gwrandawiad yn breifat.

At ddibenion cynnal gwrandawiadau rhith, bydd Kinly yn brosesydd data ar ran y Tribiwnlys a Llywodraeth Cymru. Bydd Kinly yn cadw cofnodion o fanylion galwadau am 2 flynedd gan gynnwys dyddiad ac amser y gwrandawiad, cyfeiriadau cyfranogwyr (cyfeiriad dyfeisiau fideo, cyfeiriad Skype, cyfeiriad IP), hyd galwad, dyfais a ddefnyddir i gysylltu a lleoliad (yn seiliedig ar gyfeiriad IP).

Ydych chi’n trosglwyddo fy nata personol i wledydd eraill?

Dim ond pe na fyddai parti’n byw yn y Deyrnas Unedig y byddai’r Panel yn trosglwyddo data i wledydd eraill. Mewn achosion o’r fath, byddai papurau’r achos yn cael eu hanfon at y parti drwy gyfrwng e-bost diogel neu Bost Safonol Rhyngwladol Grŵp y Post Brenhinol Cyf.

Pa mor hir ydych chi'n cadw fy nata personol?

Byddwn yn cadw eich data am hyd at chwe blynedd, yn unol â’n Hamserlen Cadw a Gwaredu.

Pa hawliau sydd gennyf?

  • Mae gennych yr hawl i gael cadarnhad bod eich data’n cael eu prosesu a hawl i gael gafael ar eich data personol
  • Mae gennych hawl i gael cywiro eich data personol os yw’r data yn anghywir neu’n anghyflawn
  • Mae gennych hawl i gael dileu data personol ac atal prosesu mewn rhai amgylchiadau
  • Mae gennych yr hawl i ‘rwystro’ neu atal data personol rhag cael eu prosesu mewn rhai amgylchiadau
  • Mae gennych yr hawl i gludadwyedd data mewn rhai amgylchiadau
  • Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu mewn rhai amgylchiadau

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol am gynnwys yr hysbysiad preifatrwydd hwn, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw ran ohono, cysylltwch â ni yn TribiwnlysoeddCymru@llyw.cymru

Rheolydd Data

Swyddfa’r Llywydd
Panel Dyfarnu Cymru
Adeiladau’r Llywodraeth
Spa Road East
Llandrindod
Powys
LD1 5HA

E-bost: adjudication.panel@llyw.cymru

Pennaeth Llywodraethu a Sicrwydd
Llywodraeth Cymru 
2il Lawr, Adain y De
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Sut mae modd i mi gwyno os nad ydw i’n fodlon?

Os nad ydych chi’n fodlon ag unrhyw agwedd ar yr hysbysiad preifatrwydd hwn, neu â sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu, cysylltwch â ni yn TribiwnlysoeddCymru@llyw.cymru

Os ydych chi’n dal yn anfodlon, mae gennych yr hawl i wneud cwyn drwy gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO):

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113
E-bost: casework@ico.org.uk
Gwefan: https://ico.org.uk/global/contact-us/