Apelio yn erbyn Penderfyniad Tribiwnlys

Nid oes hawl i gyfeirio apêl ymlaen at lys uwch yn erbyn penderfyniad un o dribiwnlysoedd apeliadau Panel Dyfarnu Cymru.

Cyfeiriadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Mae hawl gyfyngedig i gyfeirio apêl ymlaen at yr Uchel Lys yn erbyn penderfyniad gan un o dribiwnlysoedd achos interim a thribiwnlysoedd achos Panel Dyfarnu Cymru.

Rhaid cael caniatâd yr Uchel Lys cyn apelio yn erbyn penderfyniad tribiwnlys achos interim a thribiwnlys achos. Mae unrhyw un sy'n ystyried gwneud apêl yn gyfrifol am gael ei gyngor cyfreithiol ei hun.