Beth yw’r Panel Dyfarnu?
Tribiwnlys annibynnol a sefydlwyd dan Ran III Deddf Llywodraeth Leol 2000 yw Panel Dyfarnu Cymru.
Rôl y Panel yw ffurfio tribiwnlysoedd achos a thribiwnlysoedd achos interim i ystyried a yw aelodau etholedig neu gyfetholedig cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol, cynghorau cymuned, awdurdodau tân ac awdurdodau parciau cenedlaethol yng Nghymru (“awdurdodau perthnasol”) wedi gweithredu’n groes i god ymddygiad statudol eu hawdurdod.
Mae’r Panel hefyd yn gwrando ar apeliadau gan aelodau yn erbyn penderfyniadau a wnaed gan Bwyllgor Safonau eu hawdurdod, sy’n nodi eu bod wedi gweithredu’n groes i god ymddygiad eu hawdurdod.
Pwy yw aelodau’r Panel?
Mae Panel Dyfarnu Cymru yn cynnwys Llywydd (aelod cyfreithiol), aelod cyfreithiol arall a phedwar aelod lleyg a benodir gan y Prif Weinidog yn dilyn argymhellion a wnaed gan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol.
Y Llywydd presennol yw Mrs Claire Sharp a’r Dirprwy Lywydd yw Mrs Siấn McRobie.
Pwy all gyflwyno honiad i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru?
Gall unrhyw un gyflwyno honiad ysgrifenedig i’r Ombwdsmon bod aelod etholedig neu gyfetholedig wedi gweithredu’n groes i god ymddygiad awdurdod. Bydd yr Ombwdsmon yn penderfynu a yw’r honiad yn cyfiawnhau cynnal ymchwiliad.
Gall yr ymchwiliad gael ei gynnal gan yr Ombwdsmon, neu gall yr Ombwdsmon gyfeirio’r honiad at Swyddog Monitro’r awdurdod perthnasol dan sylw er mwyn i’r Swyddog hwnnw gynnal ymchwiliad a chyflwyno adroddiad i Bwyllgor Safonau’r awdurdod.
Sut y caiff achosion eu cyfeirio at Banel Dyfarnu Cymru?
Gall achosion ddod i law mewn dwy ffordd:
- drwy law Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, sy’n gyfrifol am ymchwilio i honiadau bod aelodau etholedig neu gyfetholedig awdurdodau perthnasol yng Nghymru wedi gweithredu’n groes i’r codau ymddygiad statudol y mae’r awdurdodau hynny wedi’u mabwysiadu, ac sy’n gyfrifol am adrodd ynghylch yr honiadau hynny.
- drwy apeliadau gan gynghorwyr lleol yn erbyn penderfyniad Pwyllgor Safonau eu hawdurdod perthnasol.