Tribiwnlysoedd sydd i ddod

Rôl y Panel yw ffurfio tribiwnlysoedd i ystyried a yw aelodau etholedig neu gyfetholedig o gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol, cynghorau cymuned, awdurdodau tân ac awdurdodau parciau cenedlaethol yng Nghymru wedi torri cod ymddygiad statudol eu hawdurdod.

Mae'r dudalen hon yn nodi rhestr o dribiwnlysoedd sydd i ddod. Rydym wedi cynnwys y dyddiad a'r lleoliad ar gyfer y gwrandawiadau tribiwnlys hynny os yw'r wybodaeth hon wedi'i chadarnhau.

Mae gwrandawiadau tribiwnlysoedd fel arfer ar agor i'r cyhoedd. Cysylltwch â Phanel Dyfarnu Cymru drwy e-bost adjudication.panel@llyw.cymru 5 diwrnod gwaith cyn dyddiad y gwrandawiad i gael dolen i'r gwrandawiad. Bydd eich cais am ddolen yn cael ei ystyried a gwybodaeth bellach yn cael ei darparu.

Enw: Cynghorydd Attridge
Rhif cyfeirnod: APW/0004/2023-024/CT
Awdurdod perthnasolCyngor Sir Fflint a Chyngor Tref Cei Connah
Natur yr honiad: Torri paragraffau 4(b), 4(c), 4(d), 5(a), 6(1)(a), 7(a), 11(2)(a) a 14(1)(d)

Gwrandawiad: 26 Ebrill, 2024 dros Microsoft Teams. Ni fydd y gwrandawiad hwn yn agored i'r cyhoedd.