Mae Panel Dyfarnu Cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol i'r safle weithio. Defnyddir cwcis nad ydynt yn hanfodol hefyd i deilwra a gwella gwasanaethau. Trwy barhau i ddefnyddio'r safle, rydych yn cytuno ein bod ni'n defnyddio cwcis.
Fideos yn esbonio sut mae Panel Dyfarnu Cymru yn gweithio
Cyflwyniad i waith Panel Dyfarnu Cymru
Croeso i wefan Panel Dyfarnu Cymru. Gobeithio y bydd y gyfres hon o fideos yn ddefnyddiol ichi. Maen nhw’n esbonio ein gwaith, yr amgylchedd rydym yn gweithio ynddo, a beth i’w ddisgwyl os byddwch yn mynychu un o'n gwrandawiadau. Mae gwybodaeth ysgrifenedig ar gael ar ein gwefan hefyd a gallwch gysylltu â'r cofrestrydd os hoffech gael gwybodaeth drwy’r post neu drwy e-bost.
Mae Panel Dyfarnu Cymru yn trafod er mwyn penderfynu a yw cynghorwyr o gynghorau bwrdeistref sirol neu gynghorau cymuned, neu aelodau awdurdodau tân neu awdurdodau parciau cenedlaethol, wedi torri'r Cod Ymddygiad. Os byddwn yn penderfynu eu bod wedi torri'r Cod Ymddygiad, mae Panel Dyfarnu Cymru wedyn yn penderfynu pa gamau i'w cymryd, os o gwbl. Mae gennym ddyletswydd i wneud yn siŵr bod pobl sy’n mewn swyddi cynghorwyr yn cydymffurfio â'r Cod Ymddygiad, ond rhaid inni hefyd ddiogelu democratiaeth leol a rhyddid mynegiant. Mae’r dyletswyddau hyn weithiau’n gwrthdaro â'i gilydd, a dyna pam mae’r Panel yn cynnwys aelodau cyfreithiol ac aelodau cyffredin (lleyg) sy'n ystyried y gyfraith ac yn ei defnyddio i wneud yn siŵr bod canlyniad y gwrandawiad yn un teg.
Rydyn ni’n delio â dau fath o wrandawiad – tribiwnlysoedd achos (mae'r rhain yn gwrando ar achosion sydd wedi’u cyfeirio’n uniongyrchol gan yr Ombwdsmon, yn honni bod cynghorydd wedi torri'r Cod Ymddygiad) a thribiwnlysoedd apêl (mae'r rhain yn gwrando ar apeliadau yn erbyn penderfyniadau pwyllgorau safonau am dorri’r Cod Ymddygiad a/neu yn erbyn y cosbau maen nhw wedi’u rhoi).
Proses ar gyfer tystlythyr o’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn anfon hysbysiad cyfeirio uniongyrchol at Lywydd Panel Dyfarnu Cymru. Mae hyn yn cael ei wneud drwy adroddiad sy’n cael ei baratoi gan yr Ombwdsmon yn dilyn ymchwiliad manwl. Unwaith y bydd yr hysbysiad cyfeirio wedi’i anfon at Banel Dyfarnu Cymru, rhaid iddo benderfynu a yw’r Cod Ymddygiad wedi cael ei dorri, ac os felly pa gamau mae angen eu cymryd, os o gwbl. Rydym yn sylweddoli bod cynghorwyr, weithiau, yn teimlo na ddylai’r ombwdsmon fod wedi cyfeirio’r achos; ond y ffordd orau o ddelio ag unrhyw gwynion fel hyn yw drwy adolygiad barnwrol i’r Uchel Lys, gan fod rhaid i Banel Dyfarnu Cymru ddelio â’r achos os yw darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000 wedi cael eu dilyn.
Y cam cyntaf ar ôl i’r achos gae ei gyfeirio yw bod y cynghorydd neu'r aelod (a elwir yn "gynghorydd" yn y ddogfen hon) yn cael copi o adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gan Gofrestrydd Panel Dyfarnu Cymru ac yn cael cyfle i ymateb. Ar ôl cael yr ymateb hwnnw, neu os na fydd ymateb yn cael ei dderbyn erbyn y dyddiad cau, bydd y llywydd yn penodi panel o dri pherson i ddelio â'r achos. Caiff y panel ei gadeirio gan aelod cyfreithiol ac mae'n gyfrifol am reoli'r achos er mwyn sicrhau bod gwrandawiad amserol a theg yn digwydd mor agos â phosibl at leoliad yr awdurdod dan sylw.
Bydd y panel yn cyhoeddi cyfres o gyfarwyddiadau, sy’n cael eu galw’n gyfarwyddyd rhestru. Rhaid i’r cynghorydd ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gydymffurfio â’r rhain. Gall y cynghorydd a'r ombwdsmon gyflwyno tystiolaeth i'w hystyried gan y panel ac awgrymu tystion y gallai'r panel ddymuno clywed ganddynt yn y gwrandawiad. Ond, mater i’r panel yw penderfynu’n derfynol pa dystion fydd yn cael eu galw, os o gwbl. Os oes angen, gellir rhoi gwŷs tyst i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a all roi tystiolaeth berthnasol yn y gwrandawiad fod yn bresennol. Mae’r panel yn yr achosion hyn yn cael ei alw’n dribiwnlys achos.
Proses ar gyfer apêl
Mae'r broses o ddelio ag apêl ychydig yn wahanol i'r broses pan fydd yr achos wedi’i gyfeirio’n ffurfiol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Gall Panel Dyfarnu Cymru ystyried o'r newydd a yw'r cynghorydd wedi torri'r Cod Ymddygiad ac a yw'r gosb a osodwyd gan y pwyllgor safonau yn briodol. Dydyn ni ddim yn gallu gorfodi’r pwyllgor safonau i newid ei gosb – dim ond argymhellion rydym ni yn gallu eu gwneud. Mae’n anarferol i bwyllgor cosbau beidio dilyn argymhellion Panel Dyfarnu Cymru.
Y cam cyntaf yw bod rhaid i'r cynghorydd ofyn i Lywydd Panel Dyfarnu Cymru am ganiatâd i apelio. Bydd y Llywydd yn ystyried y mater yn bersonol oni bai ei bod yn absennol (os felly caiff y mater ei ddirprwyo i aelod cyfreithiol arall o'r Panel i benderfynu arno). Rhoddir caniatâd i apelio oni bai bod y Llywydd o'r farn nad oes gan yr apêl unrhyw obaith rhesymol o lwyddo. Mae hwn yn brawf gyda throthwy gweddol uchel, a chaniateir i apeliadau nad oes ganddynt fawr o obaith o lwyddo fynd i wrandawiad llawn. Rhaid i’r cynghorydd lenwi ffurflen i gael caniatâd i apelio a dylai hefyd anfon copi o benderfyniad y pwyllgor safonau ac unrhyw dystiolaeth sydd ganddo i gefnogi ei gais.
Os rhoddir caniatâd i apelio, bydd Cofrestrydd Panel Dyfarnu Cymru yn anfon copi o'r cais a'r penderfyniad i roi caniatâd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru am ei sylwadau. Ar ôl cael ymateb yr Ombwdsmon, bydd y Llywydd yn penodi panel o dri pherson i ystyried yr apêl. Caiff y panel hwnnw ei gadeirio gan aelod cyfreithiol ac mae'n gyfrifol am reoli'r achos er mwyn sicrhau bod gwrandawiad amserol a theg yn digwydd mor agos â phosibl at leoliad yr awdurdod dan sylw. Bydd y panel yn cyhoeddi cyfres o gyfarwyddiadau, sy’n cael eu galw’n gyfarwyddyd rhestru, a rhaid i’r cynghorydd a’r Ombwdsmon gydymffurfio â nhw. Gall y cynghorydd a’r Ombwdsmon gyflwyno tystiolaeth i'w hystyried gan y panel ac awgrymu tystion y gallai'r panel ddymuno clywed ganddynt yn y gwrandawiad. Ond, mater i’r panel yw penderfynu’n derfynol pa dystion sydd i’w galw, ac os oes angen gellir rhoi gwŷs tyst i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a all roi tystiolaeth berthnasol yn y gwrandawiad fod yn bresennol. Mae’r panel yn y gwrandawiadau hyn yn cael ei alw’n dribiwnlys apêl.
Mae'n werth nodi bod y cosbau y gall pwyllgor safonau eu rhoi yn llai na'r rhai y gall Panel Dyfarnu Cymru eu rhoi wrth ddelio ag achos a gyfeirir gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn tribiwnlys achos. Dim ond am hyd at 6 mis, neu hyd at weddill ei gyfnod yn y swydd (os yw hynny’n fyrrach), y gall pwyllgorau cosbau atal cynghorydd. Mae hynny’n cyfyngu ar unrhyw argymhellion gan banel apêl yn yr un modd.
Sut mae gwrandawiad yn gweithio
Mae gwrandawiadau'n cael eu cynnal yn gyhoeddus oni bai ei bod er budd cyfiawnder i bob rhan ohono gael eu cynnal yn breifat. Gan ei bod yn ofynnol bod cyfiawnder yn cael ei gynnal yn gyhoeddus fel arfer, bydd y tribiwnlys yn ceisio sicrhau bod cyn lleied a phosibl o sesiynau yn cael eu cynnal yn breifat. Bydd hynny’n sicrhau bod y cyhoedd yn cael gweld cymaint a phosibl o’n proses benderfynu.
Gall gwrandawiadau gael eu cynnal ar wyneb y papurau eu hunain; dyma ffordd arall o ddweud y bydd y panel yn darllen y dystiolaeth ac unrhyw gyflwyniadau gan y partïon er mwyn gwneud penderfyniad - nid oes gwrandawiad cyhoeddus llafar. Ni fydd gwrandawiadau’n cael eu cynnal ar wyneb y papur oni bai bod y cynghorydd yn gofyn am hynny, a bod y tribiwnlys yn teimlo bod ganddo ddigon o dystiolaeth i benderfynu ar y mater heb glywed tystiolaeth lafar. Neu gallai’r tribiwnlys benderfynu, oherwydd diffyg ymateb, na fyddai'n ddefnydd da o adnoddau iddo gynnal gwrandawiad llafar.
Gall y panel gynnal adolygiad cyn gwrandawiad, sy’n rhoi cyfle i’r partïon ymddangos gerbron y panel i drafod materion sy'n berthnasol i baratoi'r achos ar gyfer gwrandawiad terfynol neu i ddelio ag unrhyw faterion rhagarweiniol sy'n gofyn am benderfyniad gan y panel. Dim ond yn ôl disgresiwn y panel ei hun y trefnir gwrandawiadau o'r fath, a dim ond pan fydd yn credu y bydd adolygiad o'r fath yn ei helpu â’r materion y mae angen iddo benderfynu arnynt.
Yn gyffredinol, mae gwrandawiadau’n cael eu cynnal mewn ystafelloedd llys neu dribiwnlys sy'n cael eu rhedeg gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi. Mae sawl rheswm am hyn. Mae ystafelloedd o'r fath wedi'u cynllunio'n benodol i gynnal gwrandawiadau ac mae ganddynt yr holl gyfleusterau angenrheidiol, gan gynnwys mynediad i'r cyhoedd, i alluogi cynnal gwrandawiadau’n ddidrafferth. Mae cyfleusterau diogelwch ar gael yn rhwydd mewn lleoliadau o'r fath. Mae defnyddio ystafelloedd fel hyn yn arbed swm sylweddol i drethdalwyr Cymru ac mae'n ddefnydd da o adnoddau cyfyngedig. Hyd y bo modd, rydym yn ceisio cynnal y gwrandawiad mor agos â phosibl at leoliad yr awdurdod dan sylw, er nad yw hyn bob amser yn bosibl. Mae hyn yn golygu bod y pellter a'r costau i'r rhai sy'n mynychu'r gwrandawiad yn cael eu cadw cyn ised â phosibl. Gallwn hefyd gynnal gwrandawiadau yn rhithwir, ar blatfform fideo ‘cwmwl’ sydd ar gael i’r cyhoedd.
Mae ein gwrandawiadau’n cael eu cynnal mewn tri cham. Y cam cyntaf yw bod y panel yn canfod unrhyw ffeithiau perthnasol sy’n destun dadl. Yr ail gam yw bod y panel yn penderfynu, ar sail y ffeithiau y cytunwyd arnynt a'r ffeithiau y mae wedi'u canfod, a yw'r cod ymddygiad wedi'i dorri. Y cam olaf, os yw'r panel yn canfod bod y cod wedi’i dorri, yw penderfynu pa gamau sydd i’w cymryd os o gwbl. Mae pwerau'r panel yn amrywio o gymryd dim camau o gwbl, i atal y cynghorydd o'i rôl am hyd at flwyddyn neu am weddill ei gyfnod yn y swydd os yw hynny’n fyrrach, i anghymhwyso’r aelod rhag dal swydd mewn unrhyw awdurdod perthnasol am hyd at 5 mlynedd. Y mwyaf difrifol yw achos o dorri’r cod, y mwyaf difrifol fel arfer yw'r gosb a roddir, er bod y panel hefyd yn ystyried unrhyw ffactorau lliniarol neu waethygol. Mae gan y panel hefyd ganllawiau ar gosbau, sydd ar gael ar ein gwefan neu'n uniongyrchol gan y cofrestrydd. Mae’r panel yn defnyddio hwn fel canllaw wrth benderfynu pa gosb i’w rhoi, os o gwbl.
Cynllun ystafell gwrandawiad
Yn gyffredinol, rydyn ni’n defnyddio ystafelloedd llys a thribiwnlys arferol.
Y person cyntaf o Banel Dyfarnu Cymru rydych yn debygol o'i gyfarfod yw'r Cofrestrydd neu un o'r staff gweinyddol a fydd yn gwasanaethu fel clerc y panel. Ei rôl yw sicrhau bod yr holl bartïon a thystion yn y lle iawn, a chefnogi'r panel yn ei waith. Bydd y panel yn eistedd yn nhu blaen yr ystafell, yn wynebu’r partïon ac unrhyw aelodau o'r cyhoedd sy'n bresennol. Mae'r aelod cyfreithiol yn eistedd yn y canol rhwng y ddau aelod arall, a chyfeirir ato fel y cadeirydd. Mae'r aelodau lleyg yn eistedd ar y naill ochr a'r llall i'r aelod cyfreithiol. Mae gan bob aelod bleidleisiau cyfartal ac maen nhw’n cyfrannu at y penderfyniad.
Os ydych yn wynebu’r panel, mae'r cynghorydd yn eistedd ar y bwrdd ar y chwith. Os oes gan y cynghorydd gynrychiolydd, bydd y person hwn yn eistedd wrth ei ymyl. Bydd swyddog Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn eistedd ar y bwrdd ar y dde wrth ichi wynebu'r panel, ac os oes ganddo gynrychiolydd, bydd y person hwnnw yn eistedd wrth ymyl ei swyddog.
Bydd aelodau'r cyhoedd yn eistedd y tu ôl i'r partïon a'u cynrychiolwyr. Nid yw'r wasg yn cael bwrdd nac oriel arbennig; ond, os yw’r llefydd yn gyfyngedig neu bod gormod o alw amdanynt, mae newyddiadurwyr wedi’u hachredu yn cael blaenoriaeth, i sicrhau eu bod yn gallu rhoi adroddiadau am ein trafodaethau i’r cyhoedd. Er nad oes hawl i ddefnyddio ffonau symudol yn ein gwrandawiadau, caniateir i newyddiadurwyr wedi’u hachredu ddefnyddio ffonau symudol i drydar y trafodion yn fyw - unwaith eto i sicrhau bod y cyhoedd yn gael gwybod cymaint â phosibl am y gwrandawiad.
Esiampl croesholi
Gan fod tystion sy’n rhoi tystiolaeth ar lafar i’r tribiwnlys yn gwneud hynny o dan lw neu gadarnhad, mae’n bosibl y byddant yn cael eu croesholi. Nid cyfle i gael dadl gyda'r tyst yw hyn, ond cyfle i gyflwyno rhannau o’r achos i’r tyst a chlywed ei sylwadau, neu i herio rhannau o dystiolaeth y tyst y mae’r parti yn anghytuno â nhw. Mae hon yn rhan bwysig o’r broses, oherwydd os na fydd y parti yn herio’r tyst drwy ei groesholi am unrhyw ran o’i dystiolaeth, gall y panel ystyried bod y parti wedi derbyn y dystiolaeth honno.
I bobl sy’n cynrychioli eu hunain neu sydd heb eiriolwr cymwysedig i’w cynrychioli, gallai gofyn cwestiynau i’r tyst ymddangos yn dasg heriol. Y peth pwysicaf yw cofio’r hyn maen nhw’n gobeithio’i gyflawni drwy ofyn y cwestiwn. Mae’n bwysig gofyn y cwestiwn yn y ffordd symlaf posibl fel nad yw'r tyst yn camddeall. Gofyn un cwestiwn ar y tro sydd orau. Os nad oes gan y cynghorydd rywun i’w gynrychioli, gall y cadeirydd cyfreithiol helpu i ofyn y cwestiwn os bydd y cynghorydd yn mynd i drafferth neu’n methu dod o hyd i’r ffordd orau o ofyn cwestiwn. Ond ni fydd yn gallu rhoi cyngor.
Esiampl ymostyngiad
Ar ddiwedd pob cam yn y gwrandawiad, bydd pob parti’n cael cyfle i roi cyflwyniadau i’r panel i egluro pam y dylid ffafrio eu safbwynt nhw. Er enghraifft, ar ddiwedd yr ail gam, pan fo’r panel yn gorfod penderfynu a yw’r Cod Ymddygiad wedi cael ei dorri, efallai y bydd y cynghorydd am ddadlau nad yw’r Cod wedi cael ei dorri. Bydd yr Ombwdsmon, ar y llaw arall, yn debygol o ddadlau bod y Cod wedi cael ei dorri. Mae cyflwyniadau’n ffordd o gyflwyno achos a safbwynt pob parti i’r panel. Efallai y byddant am gyfeirio at y gyfraith, ond yn amlach na pheidio, mae’n fwy defnyddiol iddynt egluro eu safbwynt, tynnu sylw’r panel at y dystiolaeth sy’n cefnogi eu safbwynt, a dweud pam y dylai’r panel anwybyddu unrhyw dystiolaeth sydd ddim yn cefnogi eu safbwynt neu roi llai o bwys ar unrhyw dystiolaeth o’r fath.