Newyddion

Yma, cewch y newyddion diweddaraf gan Banel Dyfarnu Cymru.

Llywydd a Dirprwy Lywydd Panel Dyfarnu Cymru

O 1 Gorffennaf 2024, Llywydd newydd y Panel Dyfarnu Cymru fydd y Barnwr Meleri Tudur. Mae'r Barnwr Tudur hefyd yn ddirprwy lywydd siambr yn y Tribiwnlys Henc Gyntaf ar gyfer Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol, a bydd yn parhau yn y rol honno. Hefyd o 1 Gorffennaf 2024, dirprwy lywydd newydd Panel Dyfarnu Cymru fydd y Barnwr Uwch Dribiwnlys Edell Fitzpatrick. Bydd y Llywydd cyfredol, Claire Sharp, yn ymddeol o’r Panel, tra bydd y dirprwy Lywydd cyfredol, Siân McRobie yn aros ar y panel fel aelod lleyg.

Diwygio’r tribiwnlysoedd

Yn dilyn adolygiad gan Gomisiwn y Gyfraith o dribiwnlysoedd datganoledig, mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau datblygu’r polisi manwl i fwrw ymlaen â’r gwaith o ddiwygio’r tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru.  

Mae’r cynlluniau, sy’n cynnwys creu Tribiwnlys Haen Gyntaf unedig i Gymru fel rhan o Wasanaeth Tribiwnlysoedd strwythurol annibynnol a chreu Tribiwnlys Apeliadau i Gymru, wedi eu manylu mewn dogfen drawslywodraethol, bellgyrhaeddol Sicrhau Cyfiawnder i Gymru a’r crynodeb a’r rhaglen waith gysylltiedig.