Canllawiau a ffurflenni

Mae gwybodaeth am wneud apêl a beth fydd yn digwydd pan fydd achos yn cael ei gyfeirio ar gael yn ein llawlyfrau canllaw.

Gallwch lawrlwytho llawlyfrau canllaw a ffurflenni o'r wefan hon neu, os hoffech i ni anfon copi atoch, cysylltwch â ni.

Mae angen dychwelyd ffurflenni wedi'u llenwi i Banel Dyfarnu Cymru.

Cyfeiriadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn cyfeirio honiadau bod aelodau etholedig a chyfetholedig wedi torri cod ymddygiad statudol awdurdod at Banel Dyfarnu Cymru fel y gall benderfynu arnynt. Bydd yr Ombwdsmon yn cynnal ei ymchwiliad ei hun i honiadau bod aelod wedi torri'r cod cyn penderfynu p'un a fydd yn eu cyfeirio ai peidio.

Apeliadau yn erbyn penderfyniadau pwyllgor safonau

Gall aelodau etholedig a chyfetholedig wneud apêl i Banel Dyfarnu Cymru yn erbyn penderfyniad gan bwyllgor safonau awdurdod bod yr aelod dan sylw wedi torri cod ymddygiad statudol yr awdurdod.

Gwybodaeth i Dystion

Gall yr aelod sy'n destun yr honiad ei fod wedi torri'r cod ofyn i dystion fynd i wrandawiad y tribiwnlys er mwyn rhoi tystiolaeth.  Hefyd, gall Panel Dyfarnu Cymru alw ar dystion ac, mewn achosion penodol, gall wysio tystion i fynd i wrandawiad tribiwnlys.

Efallai y bydd y dudalen cwestiynau cyffredin a'r rhestr termau ar ein gwefan yn ddefnyddiol i chi hefyd.