Adborth

Gall defnyddwyr tribiwnlys roi adborth i'r tribiwnlys fel a ganlyn:
  • yn ysgrifenedig
  • drwy ffacs
  • drwy e-bost
  • dros y ffôn
  • yn bersonol

Rydym yn croesawu adborth ar bob agwedd ar ein gwaith er mwyn gwella ein gwasanaeth. Fodd bynnag, os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y gwasanaeth rydym wedi'i ddarparu, cysylltwch â ni i drafod eich cwyn neu ysgrifennwch atom i nodi ym mha ffordd rydych yn anhapus â'r gwasanaeth a ddarparwyd.

Os hoffech roi eich adborth i ni, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r wybodaeth ar ein tudalen Cysylltu.

Mae cyfle hefyd i roi adborth i ni am ein gwasanaethau gweinyddol drwy gwblhau ein Harolwg Boddhad Cwsmeriaid. Darparwn yr arolwg i ddefnyddwyr tribiwnlys unwaith bod achos yn cael ei rhyddhau gan Banel Dyfarnu Cymru.