Mae Panel Dyfarnu Cymru, yr aelodau a phenderfyniadau, yn gorff annibynnol a gafodd ei sefydlu o dan Ran III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. Mae'r tribiwnlys yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ond mae'r tribiwnlys, yr aelodau a phenderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru, yn annibynnol ar y Llywodraeth. Darperir gwybodaeth ystadegol a chofnod blynyddol o weithgareddau yn Adroddiad Blynyddol Panel Dyfarnu Cymru.
Trefniadau swyddfa'r Tribiwnlys
Mae’r tribiwnlys yn parhau i weithio o bell, gyda mynediad cyfyngedig at eitemau a anfonir trwy’r post. Os yn bosibl, gofynnwn i chi anfon unrhyw ddogfennau sydd eu hangen ar y tribiwnlys (yn cynnwys ffurflenni cais a datganiadau ysgrifenedig) trwy e-bost i adjudication.panel@llyw.cymru.
Os nad yw hyn yn bosibl, dylech gysylltu â swyddfa’r tribiwnlys ar 0300 025 2777 i wneud trefniadau eraill.
Mae’r tribiwnlys yn rhestru gwrandawiadau fel arfer. Serch hynny, dylech nodi fod mwyafrif yr achosion yn cael eu rhestru’n rhithiol, yn defnyddio llwyfan fideo y Tribiwnlys.
Cyfeiriadau gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC)
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn cyfeirio honiadau bod aelodau etholedig a chyfetholedig wedi torri cod ymddygiad statudol awdurdod at Banel Dyfarnu Cymru fel y gall benderfynu arnynt. Bydd yr Ombwdsmon yn cynnal ei ymchwiliad ei hun i honiadau bod aelod wedi torri'r cod cyn penderfynu p'un a fydd yn eu cyfeirio ai peidio.
Apeliadau yn erbyn penderfyniadau pwyllgor safonau
Gall aelodau etholedig a chyfetholedig wneud apêl i Banel Dyfarnu Cymru yn erbyn penderfyniad gan bwyllgor safonau awdurdod bod yr aelod dan sylw wedi torri cod ymddygiad statudol yr awdurdod.
Tribiwnlysoedd sydd i ddod
Mae gwrandawiadau tribiwnlysoedd fel arfer ar agor i'r cyhoedd. Mae rhestr o wrandawiadau tribiwnlysoedd, gan gynnwys manylion tribiwnlysoedd sydd i ddod, ar gael i'w gweld ar-lein.
Gwybodaeth i dystion
Efallai y bydd gofyn i dystion fynd i wrandawiad y tribiwnlys er mwyn rhoi tystiolaeth. Hefyd, gall Panel Dyfarnu Cymru wysio tystion i fynd i wrandawiad y tribiwnlys mewn rhai amgylchiadau.
Fideos gwybodaeth
Gwyliwch fwy o fideos amsut mae Panel Dyfarnu Cymru yn gweithio a’r broses.
Ein cefndir
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os na allwch ddod o hyd i unrhyw beth rydych yn chwilio amdano.