Y Gymraeg

Mae Panel Dyfarnu Cymru yn ymrwymedig i sicrhau y caiff y Gymraeg a’r Saesneg eu trin yn gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau.

Rydym ym ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth o’r un safon uchel i siaradwyr Cymraeg a Saesneg sydd wedi eu cyfeirio neu sydd wedi gwneud apêl i’r tribiwnlys. I’r perwyl hwn rydym wedi ymrwymo i gydymffurfio ag ysbryd safonau’r Gymraeg ac:

  • rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn drwy gyfrwng y Gymraeg
  • mae ein holl gyhoeddiadau yn Gymraeg a Saesneg
  • gall partïon gynnal gwrandawiad yn Gymraeg neu Saesneg neu gymysgedd o’r ddwy, ac
  • mae gennym wefan gwbl ddwyieithog.